Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tachwedd 2011
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Is-ddeddfau
Llywodraeth Leol (Cymru)
1. Ar 28 Tachwedd 2011, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 22 Tachwedd 2011, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 30 Mawrth 2012.
4. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 1 Mehefin
2012, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.